Chwarae tric ar Aelwyd yr Ynys
Cyn i mi fynd am y Coleg, roedd yr Aelwyd yn mynd yn "hai-tec" a wedi cael cyfeiriad e-bost. Ychydig yn ddiweddarach dyma 'na erthygl am yr Aelwyd yn y Glorian, ac yn hysbysebu'r cyfeiriad. Un noson yn yr Holland Arms (y dafarn) tra'n trafod yr helfa drysor oedd i ddod, dyma Lowri* a Robin* a minnau'n penderfynnu chwarae tric ar yr Aelwyd. Mi ddudis y baswn yn esgus bod yn rywun oedd â diddordeb mewn cael yr Aelwyd i ganu iddynt. Yna, aeth y dychymyg ar chwâl!
Mi oedd gen i dal gopis o'r llythyrau ar fy nghyfrifiadur felly mi wnes eu rhaoi ar ffurf llyfryn i'r holl Aelwyd gael ei fwynhau, cyn i mi adael am Gaer-grawnt.
*Dwi 'di newid enwau a rhifau ffôn pawb, jysd rhag ofn! Y newidiadau i'w gweld lle mae'r sêr. (Heblaw am Edith Rowlands, Maes Derwydd, Llangefni - cyneriad dychmygol oedd hi o'r cychwyn).
Dyma gofnod o gyfres o e-lythyrau a yrrwyd rhwng Aelwyd yr Ynys a Mr ap Meredydd.
Yn anffodus, "collwyd" y llythyrau o gyfrif e-bost yr Aelwyd,
felly dyma eu roi ar gof a chadw ar ffurf cyfrol fechan.
1. Oriau mân fore Mawrth, 6ed Medi 2005, toc wedi hanner nos, gyrrwyd llythyr cyntaf Huw ap Meredydd i'r Aelwyd. Gyda cymorth technoleg fodern, roedd hynny toc wedi 8 o'r gloch bore dydd Mawrth yn Japan.
Annwyl Gyfaill,
A gaf i yn gyntaf ddymuno bore da i chwi? Er rwy'n sicr ei bod yn hwyr yng Nghymru fach! 'Rwyf yn gobeithio y gallwch fod o gymorth i mi yn fy ymholiad.
'Rydw i yn trigo yn Japan ers 15 mlynedd, a bellach yn ŵr busnes llwyddiannus o fy nghartref yma yn Osaka, yn cyd-weithio gyda llawer o gwmnïau cerbydau byd-eang megis Honda, Mazda a Yamaha.
Yn sgil fy ngwaith 'rydw i wedi dod i adnabod llawer o uwch-swyddogion y cwmnïau hyn. Yn dilyn llawer i sgwrs gyda hwynt maent yn cymryd llawer o ddiddordeb yn fy mamwlad a dyma yw byrdwn fy neges.
Dros dymor ewyllys da y Nadolig bydd dwsin o Brif Weithredwyr rhai o gwmnïau mwyaf y byd yn dod i Gymru fach i gael blas ar Gymreictod, ac i mi gael pwysleisio pa mor fanteisiol fyddai iddynt fuddsoddi yng Nghymru.
Clywais amdanoch fel “Aelwyd” gan fy modryb o Langefni ar Sir Ynys Môn sydd yn ddarllenydd brwd o'r “Glorian” (Edith Rowlands, Maes Derwydd; efallai eich bod yn ei hadnabod?), a ganddi y cefais gyfeiriad eich gwe-bost. Meddwl oeddwn tybed fyddech chi, fel côr, yn fodlon dod i'n diddanu a rhoi “Blas ar Gymru” i'm cyfeillion o Japan?
Byddwn yn aros yng ngwesty'r “Celtic Manor” yng Nghasnewydd rhwng y 19eg a'r 22ain o Ragfyr. Fyddech chi ar gael nos Fawrth yr 20fed o Ragfyr i'n diddanu? Byddwn yn gofyn am raglen o hanner awr i lenwi noson ar y cyd â Dawnswyr Naid a Hop*. Mi dalwn ni am gludiant i chwi o'r Gogledd, ynghyd a thâl o £500, ac efallai y bydd hi'n bosibl trefnu am gefnogaeth gan Yamaha ar ffurf Piano i'ch “Aelwyd”.
Gan obeithio nad yw fy Nghymraeg wedi dirywio yn ormodol wrth fy holl flynyddoedd yn y wlad bellennig hon, edrychaf ymlaen yn eiddgar am eich ymateb.
Yr eiddoch yn gywir iawn,
Huw ap Meredydd
-------------------------------
2. Wedi llawer o swnian a 'ballu, atebwyd y llythyr gan Sara* am 17:08 brynhawn Sadwrn, Medi'r 10fed.
Rydym yn ysgrifennu atoch fel pwyllgor côr Aelwyd yr Ynys yn dilyn eich e-bost (Medi'r 6ed 2005) yn cynnig i ni ganu yng Nghasnewydd ar yr 20fed o Ragfyr.
Rydym fel pwyllgor, wedi cwrdd i drafod eich cynnig ac rwy'n falch o ddweud fod gennym ddiddordeb mawr mewn perfformio i chwi ar y noson.
Yn naturiol mewn sefyllfa fel hyn mae ambell i gwestiwn yn cael ei godi ac mae gennym rai cwestiynau y gallech chwi, o bosib, eu hateb.
Yn gyntaf beth fydd trefniadau'r bws? Fe nodwyd yn eich e-bost y byddech yn talu costau teithio. Fyddech chi'n trefnu'r bws ynte fydd angen i ni drefnu ac yna cael y costau'n ôl ar y diwedd?
Yn ail rydym yn gofyn am eich barn ynglyn ag aros y noson yng Nghasnewydd. Ydych chi'n credu y gallem deithio i Gasnewydd ac yn ôl i'r gogledd yr un diwrnod ynte a fasai'n well i ni drefnu gwesty a teithio'n ôl y diwrnod canlynol?
Yn olaf, fe fuasem yn gwerthfawrogi cael rhif ffôn a chyfeiriad fel y gallem gysylltu â chwi os oes angen.
Rydym fel pwyllgor eisiau diolch i chwi am y cynnig ac rydym yn edrych ymlaen am eich ateb.
Yr eiddoch yn gywir
Pwyllgor Aelwyd yr Ynys.
3. Cafodd yr Aelwyd ateb yn ô handi, gan Mr ap Meredydd oedd bron ag alaru disgwyl, am 01:12 bore Sul, a oedd toc wedi 9 y bore yn Japan.
Annwyl Bwyllgor Aelwyd yr Ynys,
Diolch am eich ymateb. Gwell hwyr na hwyrach ys dywed yr hen air ynte? 'Rydwyf yn falch iawn eich bod yn awyddus i fod o gymorth i mi.
Mi rof gynnig ar fod o gymorth i chwi drwy roi cynnig ar ateb rhai o'ch cwestiynau.
Yn gyntaf, gan nad ydwyf wedi bod yn y famwlad ers wyth mlynedd nid oes gennyf wybodaeth gynhwysfawr iawn o gwmnïau bysiau yng Nghymru. Tybiaf mai'r peth gorau fyddai gadael i chwi drefnu'r bws gan fod gennych wybodaeth am fysus yn lleol? Wrth gwrs mi dalaf bob ceiniog fydd yn ddyledus yn ôl i chi am gost y cludiant. A gaf i hefyd eich annog i beidio bod yn swil wrth ddewis y cynnig rhataf? 'Rydwyf wedi credu erioed bod rhywun yn perfformio'n well wedi ymlacio, felly peidiwch a bod ofn teithio i Gasnewydd mewn moethusrwydd.
Ynglŷn ac aros yng Nghasnewydd, nid oeddwn am sôn am hyn ynghynt os nad oeddech yn awyddus i berfformio yma. 'Rwyf wedi dweud wrth y gwesty ei bod hi'n bosibilrwydd y byddai côr eisiau aros noson yma ar y Nos Fawrth yr Ugeinfed o Ragfyr, ac maent yn cadw lle dros dro i bump ar hugain o bobl. Felly yn anffodus, os ydych am aros yma, dim ond lle i 25 aelod o'ch côr sydd. Yn ogystal, ni fyddwn yn medru talu costau llawn lletya 25 o bobl, ond rwy'n sicr y gallwn ysgafnhau ychydig ar y baich. Os hoffech ddod a mwy o aelodau yna yn anffodus rhaid i chwi ddarganfod llety i'r nifer dros 25, neu beidio aros o gwbwl yn y “Celtic Manor”.
A gaf i nawr fod mor hy a holi ychydig arnoch chi? Pa fath o ganeuon fyddwch yn eu canu? 'Rydw i yn awyddus i ddangos gwir draddodiad Cymreig i'm cyfeillion, yn enwedig felly Canu Penillion (neu Cerdd Dant), Canu Gwerin yn ogystal â Chôr o leisiau Meibion. Yn wir, un o'm pleserau yn y wlad hon yw eistedd wrth fy ngwaith yn gwrando ar dâp o Gôr Meibion Llanelli.
Os ydych dal yn awyddus i gymryd rhan (ac yn wir y gobeithiaf eich bod) neu beidio, yna disgwyliaf glywed genych ar fyrder i mi gael trefnu y naill ffordd neu'r llall.
Ac am eich cais olaf. Yn bersonol, rwy'n gweld gwe-bost yn gyfrwng llawer haws i mi yn hytrach na theleffon gan nad ydwyf mewn un man yn hir iawn yn rhinwedd fy swydd. Hefyd gall fod ychydig yn lletchwith gan fy mod yn byw mewn man o'r byd sydd 8 awr o'ch blaenau! Ond ar bob cyfrif, rhif ffôn fy swyddfa ganolog yw 03-3836-5999* [gol. Byddai'r rhif ffôn a roddais iddynt wedi eu cysylltu â chwmni gosod swyddfeydd yn Japan], ond wrth ffonio o Gymru rhaid hepgor y “0” ar ddechrau'r rhif, a defnyddio'r cod rhyngwladol “81” yn ei le. Ond rhaid i mi eich rhybuddio ei bod yn bosibl iawn mai fy ysgrifenyddes newydd a atebith y teleffon, a nid yw hi'n medru'r Saesneg eto. Ar bob cyfri ffoniwch fi os byddwch yn gweld yr angen, dim ond rhybudd i chwi rhag ofn i chi glywed iaith ddieithr yn eich clustiau.
Anfonaf fwy o fanylion atoch unwaith y caf gadarnhad eich bod yn awyddus i'n diddanu, neu os ydych angen mwy o fanylion gennyf cyn penderfynu, gofynnwch a chwi a gewch.
Yn ddiffuant,
Huw ap Meredydd
Annwyl Mr ap Meredydd,
Rydym yn awyddus iawn i ddod atoch i'ch diddanu ar y Nos Fawrth Rhagfyr yr 20fed.
Hoffem ddod a mwy o aelodau na 25, felly mae'n debyg na beth wnawn yw mynd adref ar ôl perfformio i chi. Mae'n siŵr y byddai'n anodd dod o hyd i le i aros a hithau mor agos at y Nadolig!
Mi chwiliwn ni am fys i'n cludo, mwy na thebyg bydd rhaid iddo fod yn fws deulawr. Beth fydd y drefn gyda talu? Dod ar bil i chi?
Yn ffodus, mae gennym eitem o Gerdd Dant, yn ogystal ag Alaw Werin neu ddwy, a llond trol o fechgyn awyddus i'ch diddanu! Gan ystyried ei bod mor agos at y 'Dolig, hoffech i ni ganu ychydig o garolau Cymreig?
Dyma ychydig gwestiynau a gododd heno, gobeithio nad ydych yn meddwl ein bod yn hy!
Beth fydd trefn y noson? Ydym yn diddanu wrth i chwi fwyta ynteu wedyn ta beth? Pryd ydych am i ni gyrraedd? Fydd bwyd i ni yno?
Os fedrwch ddod o hyd i'r amser i ateb y cwestiynau hyn byddem yn ddiolchgar iawn.
Yn Gywir,
Tegwared ap Seion ar ran Pwyllgor Aelwyd yr Ynys
------------------------
Yn wir mae'n braf cael “person” i gyfathrebu ag o! Ac mae'n rhaid dweud fy mod yn hoff iawn o'ch enw.
'Rydwyf yn falch dros ben eich bod yn medru dod i'n diddanu, ac eich bod yn awyddus i wneud hynny.
'Rwyf felly yn cymryd yn ganiataol na fyddwch yn aros yn gwesty wrth roi amserlen i chwi. Dyma drefn eich diwrnod i roi syniad i chwi o sut raglen i'w drefnu:
1630 Anelu i gyrraedd Gwesty'r “Celtic Manor”
1730 Tamaid i'w fwyta yn y Gwesty
1830 Bydd y gwesteion yn cychwyn cyrraedd
1900 Aelwyd yr Ynys yn canu carolau yn y cefndir wrth i'r gwesteion “gymysgu”
1915 Dawnswyr Nantgarw yn dawnsio “yn y cefndir”
1930 Y gwesteion yn mynd i'r ystafell fwyta
2110 Aelwyd yr Ynys yn canu am 30 munud (Cerdd Dant, Alawon Gwerin ac yn y blaen)
2145 Aelwyd yr Ynys yn gadael y gwesty am Sir Ynys Môn
Amcangyfrifir y bydd tua 50 o bobl yn y cinio, yn cynnwys 11 o Japan, Aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol a llawer o sefydliadu a busnesau eraill.
Ar bob cyfri dewch a'ch bil gyda chwi, yna medrwn ychwanegu'r swm tuag at eich ffi o £500, os yw'r ffi yma'n dderbyniol genych? Mae Yamaha wedi cytuno i roi piano i'ch côr o'ch dewis chwi, gan yr ydwyf yn siŵr y bydd hyn o gymorth i chwi.
Gan eich bod wedi cael rhif fy nheleffon i, ydy hi'n bosibl i mi gael rhif teleffon un ohonoch? Rhag ofn i unrhyw beth godi ar fyrder.
Yn gywir iawn,
Huw ap Meredydd
----------------------
Diolch i chi am yr amserlen, bydd hyn yn gwneud pethau'n haws i ni fedru trefnu'n diwrnod. Fe ddown a bil y bys efo ni atoch i'r gwesty.
Dyma rif ffôn Lowri Williams, Arweinydd y côr: 07123456789* a fy rhif ffôn i: 07123123123*
Gai fod mor hy a gofyn ai brodor o Sir Fôn ydach chi? Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn achau pobl!
Yn gywir,
Tegwared ap Seion ar ran Pwyllgor Aelwyd yr Ynys
Annwyl Mr ap Seion,
Diolch i chi am y rhifau ffôn. Os daw unrhyw beth o bwys i fyny ar fyrder, mi a gysylltaf â chwi gyda un o'r rhifau yna. Gan obeithio na fyddaf yn eich deffro ganol nos a hithau yn fore yma ynte!
Ie un o'r fam ynys ydwyf, wedi ymadael ers pymtheg mlynedd bellach. Mae gennyf deulu dal yn byw ym Môn, a hwyrach y gwnaiff rai ohonoch fy adnabod pryd y byddwn yn cyfarfod yn ystod y mis Oer. Ger allt y stesion y bûm i'n byw yn Llangefni, yn Brynhwfa. Es i'r Dwyrain Pellennig toc ar ôl i mi ddathlu fy mhen-blwydd yn ddeugain, eisiau dechrau bywyd newydd ymhell o adref. Fel y dywedais wrthych ynghynt mae gennyf erbyn hyn fenter busnes hynod lwyddiannus yma. O adnabod pobl Sir Ynys Môn rwy'n sicr y byddwch wedi bod yn ymholi am fy hanes. Cofiwch y dywediad “curiosity killed the cat”.
Edrychaf ymlaen yn fawr i'ch cyfarfod. Os cyfyd unrhyw beth yn y cyfamser, gadewch neges gerfydd y gwe-bost, neu roddi ganiad i mi yma. Sylweddolais efallai na fyddech yn gwybod sut i gyfathrebu? Dywedwch “Huw ap Meredydd, Aelwyd yr Ynys” ar y rhif ffôn a roddais i chwi ac fe fyddent yn deall i adael neges i mi i gysylltu'n ôl â chwi.
Gyfaill, rhaid imi droi am y cae sgwâr, bydd Sioni Cwsg yma unrhyw funud. Gai felly ofyn i chwi o ba le y mae'ch gwreiddiau chwi? Pwy a ŵyr, efallai ein bod yn perthyn!
Yn gywir iawn,
Huw ap Meredydd
--------------------
Mi wnaethom ei "owtio" ar noson wobrwyo'r Aelwyd, noson y llythyr ola'. O'dd hi'n wejis all arownd, a chael fy handcyffio i'r cyfeilydd (Robin*)! Ma 'na hwyl i'w gael 'chi!