Gwlad Pwyl

Wedi i mi bori drwy flog Huw M (neu Huw P) dois ar draws gofnod ganddo am wyliau'r haf. I ddechrau, Huw, mae eisiau i ti ymuno â'r Blogiadur. Yn ail, llongyfarchiadau mawr iawn i bawb sydd wedi cael lle yn Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (dwi ddim yn siwr am y wefan), i Huw, Mari, Elin, Glesni, Sara a Rebecca. Mae'n siwr bod mwy ohonnoch dwi'n ei adnabod ond ddim yn gwybod eich bod wedi cael lle, felly llongyfarchion i chwithau.

Mi es i am glyweliad i'r gerddorfa unwaith, a gofynson i mi am unryw raddfa yn y llon. Unryw un, cofiwch chi! A minnau wedi bod yn crafu drwyddynt ymhob cywair a sawl ocdêf am wythnosau ynghynt. Wel, medda fi wrth fy hun, awê! Dyma drio bod yn glyfar a mynd am y cywair F. Byddai hynny yn golygu dim ond crafangu'n ffordd ar hyd dwy ocdêf, a dim yn gorfod newid safle o gwbwl. Ies, medda fi, aim a jiniys. Dyma ddechra: F...G...Ab... D'OH!!! (I'r rhai ohonnoch sydd ddim cweit yn gerddorol, mi oedd chwarae Ab yn hytrach nag A yn golygu fod y raddfa yn y lleddf. D'oh yn wir.) Chwara teg iddyn nhw, mi gynigson nhw le i mi wrth gefn.

Ta waeth, mynd i sôn am Wlad Pwyl oeddwn i! Fel mae Huw yn sôn, aeth Dawnswyr Môn i Wlad Pwyl ddiwedd Gorffennaf 2003 i gymryd rhan yn 40fed Gŵyl yr Ucheldiroedd yno (dwi'n meddwl mai dyna oedd yr enw'n ei olygu). Yn yr ŵyl oedd yn para wythnos, roedd 24 tîm o Wlad Pwyl ac 17 o dimoedd tramor ar draws y byd, o Gymru i Aljiria ac o Rwsia i Fecsico (a lot o lefydd in-bitwîn!).

Roeddem yn perfformio bron bob nos mewn gwahanol drefi, ar lwyfannau enfawr a miloedd ymhob cynulleidfa (5 mil mewn un man os gofiai'n iawn). Dyma lun o'r llwyfan yn Zywiec (y dref a roddodd yr enw i'r cwrw!)



Dyma luniau o Ddawnswyr Môn yn perfformio (driai beidio defnyddio 'run rhai a Huw!)



Canu oeddan ni dwi'n meddwl! Fe welwch y gynulleidfa enfawr (tua 3 mil?) ac ymbarelau efo enw'r noddwyr arnynt - y cwrw Zywiec!



Yn enw Prydain oeddem, ond 'roedd y bobl yn gwybod am Gymru fach. Dyma beth oedd ar ein tystysgrif (fel udodd Huw...we ar the champions...!):

"WIELKA BRYTANIA - Dawnswyr Mon z Bethel (Walia)"

sef

"PRYDAIN FAWR - Dawnswyr Môn o Bethel (Cymru)"

Bethel medda chi?! Roedd y person oedd yn gwneud y trefnu yn dod o Fethel (Caernarfon) ch'wel. Ei gael o oddi ar ei chyfeiriad dwi'n ama wnaethon nhw. O wel. Dwi'n licio meddwl mai Bethe Sir Fôn ydi o!


Myfi yn neidio trwy f'ysgub. Cyn neidio ar ei chefn a hedfan i ffwrdd i chwara efo Hari a Hyrmaioni. Hm.


Anti A. a GRh yn gorymdeithio/dawnsio ar y stryd. Gwaith poeth iawn! Ar y pryd, roeddwn newydd "wneud rhywbeth" i 'mhenglin yn ymarfer fy nawns (yn y sied acw) i fynd ar y daith i Wlad Pwyl, felly nid oedd rhaid i mi ddawnsio yn yr orymdaith a cefais ddal y faner/ffidlo yn lle hynny. WHW! Yr unig dro nes i ddawnsio'n unigol yno oedd yr adeg cafodd y llun uchod (yr ysgub) ei dynnu, oedd yn ystod y gystadleuaeth lle ennillom ni am y "cyfanwaith o ran wbath a gwisg" - dwi'm cweit yn cofio (o'dd o mewn Pwyleg!)! Penderfynnwyd bod angen mwy o amrywiaeth yn y rhaglen felly dawnsio oedd rhaid!


Ysgwydd GH, Huw, Robin ag OH am fynd ir môr ar Fflat Huw Puw. (sori Robin!)



Os oedd hi'n boeth i orymdeithio, yna mi oed hi'n bendant yn boeth i wneud Gwyl Ifan ar ddiwedd tri chwarter awr o ddawnsio mewn brethyn Cymreig yng nghanol Ewrop ganol haf! Mi oeddwn i'n dawnsio honna (fi 'di'r un sy'n gwneud ymdrech - dyn tri! sylwer sut mae traed pawb arall dal ar y ddaear, a finna'n mynd am dani! Hehe!)

Erbyn yr haf yma, mae'r benglin wedi'i thrwsho felly perryg y byddai'n gwneud Gwyl Ifan, Dawns Floda, Ceiliog y Rhedyn,...! Dwi ddim yn meddwl y byddai'n gwneud fy unawd ychwaith, rhywsut. Huw a Gareth sydd wrthi rwan, dwi 'di hanner ymddeol! Ond mae sôn am wneud dawns glocsio i grŵp, megis honna oedd yn seremoni'r cadeirio, Eisteddfod Môn 2004. Deud gwir, tebyg iawn i honna! Mae'n edrych yn debyg y bydd Pasg o ymarfer caled o'm blaen!

Un peth arall am Wlad Pwyl - y ddiod gadarn. Yn 2003, 16 oeddwn i a ddim wir i mewn i'r pethau 'ma. Erbyn hyn dwi'n fyfyriwr...! Un peth dwi yn gofio, serch fy oed, yw'r fodca yno. Un gair sydd i'w ddisgrifio:- mmmmmmmmmm!! Bob blas dan haul, ond y rhai sy'n aros ar y cof fwya' yw'r fodca blas Ceirios a'r fodca blas Mêl (y Miodonka fythgofiadwy - mae potel yn y tŷ yn rhywle!). Byth ers y daith mae GH wedi bod yn gneu ei fodcas blasau gwahanol ei hun - "Fodca tîn clawdd" yn ffefryn!

Yn ôl be dwi'n ei ddeall, fydd dim rhaid mynd mor bell a Gwlad Pwyl i gael fodcas gwahanol ar y farchnad. Yn barod, mae Toffoc ar gael ar hyd a lled y wlad, a dwi 'di clywed bod brawd bach iddo ar y ffordd! Gwyliwch y gofod hwn, gyfeillion. A chofiwch, yma y clywsoch amdano gyntaf!

Felly, yn edrych ymlaen yn arw iawn tuag at yr haf nesa', dyma Tegwared ap Seion yn dwedu "hwyl fawr am y tro, hwyl fawr" ac yn mynd yn ôl at ei waith :)

Sgen ti sws i Mi?

Fel y soniais yn fy mlogiad (ych dwi ddim yn licio'r gair yna) diwethaf, Mae TIM (Theatr Ieuenctid Môn) yn prysur baratoi tuag at eu cyngerdd yn Theatr Gwynedd Ysgol Gyfun Llangefni. Sylwer ar y newid mewn lleoliad. :)

Os 'da chi'n gneud dim penwythnos nesa, neu eisiau mynd a "pherson sbeshal" allan, wel lle gwell i fynd?!

Mi decsdiodd (ych eto) mam fi gynna yn deud eu bod yn gaddo tywydd mawr o Rwsia draw..."dos i brynnu sgidia call...millets...sana call i fynd efo nw...trydydd llawr..." HOWLD DDY BOWT, sud ma hi'n gwbod ar ba lawr mae sannau tewion yn millets Caergrawnt?!

Mae'n siwr y cawn dipyn o dywydd yma felly gan nad oes cysgod (mynyddig) wir rhwng fama a Rwsia - tirwedd hollol wastad o Gaergrawnt i'r arfordir = tywydd garw.

A dweud y gwir mi oedd 'na riw olwg am eira ar y cymylau cyn i mi gau'r llenni. Cyffrous yntê?!

Reit, dwi am fynd i olchi'r llestri budron (tipyn wedi bod yma am baneidiau a ballu heno, www a TOFFOC! - sdwff da!) a wedyn 'i throi hi am y cae sgwâr. Cysgwch yn dawel!

Aelwyd yr Ynys, TIM ac ati

Wedi bod yn edrych ar ysdadegau'r blogyn (mi fedrwn dreulio diwrnod cyfan yno!) ac yn sylwi bod un neu ddau ohonnoch yn dod yma wedi chwilio am "Aelwyd yr Ynys" ar y wê wê wê (diolch John ac Alun :-S).

Ar y funud, does gan yr Aelwyd ddim gwefan, ond mae'n edrych ar ffyrdd o wneud hyn y dyddiau hyn. (Unrhyw awgrymiadau'n dderbynniol!). Os hoffech gysylltu â hwynt, e-bostiwch aelwydyrynys[AT]yahoo[DOT]co[DOT]uk neu mi gewch f'e-bostio mi ar huwapmeredydd[AT]hotmail[DOT]com. Croesaw mawr i aelodau newydd ar ddechrau blwyddyn newydd, a'r aelwyd yn barod i fynd amdani yn Shir Ddimbach!

Wir i chi, bobl Shir Fôn (a gweddill Cymru), does ganddoch chi ddim syniad pa mor ffodus ydach chi efo'r holl gyfleon sydd ganddoch i fwynhau a chymdeithasu a chyfarfod a chystadlu yn y Gymraeg. Gwnewch yn fawr o'ch cyfle. A phan ewch yno, dywedwch mai fi y'ch gyrrodd chi yno!

Reit, dyna ddigon o hysbyseb i'r Aelwyd(!). Sut ydych chi'n bwriadu dathlu Dydd y Santes Dwynwen eleni? Beth am fentro i Theatr Gwynedd nos Wener y 27ain neu nos Sadwrn yr 28ain i gwmni Caryl Parry Jones, Huw Chiswell a Theatr Ieuenctid Môn? "Sgen ti Sws i Mi?" yw enw'r cynhyrchiad, dwi ddim am ddwedu gormod ond dwi wedi bod yn ymarferion y T.I.M. ac mae hi'n gaddo i fod yn noson wych arall ganddynt, gyda caneuon megis cyfieithiad gwych Iwan Llwyd o "You Raise Me Up", "Fe ei Di a Mi" gyda 150 o bobl ifanc yn perfformio. Waw! (Ta yn y gân arall mae'r 150?! Ta waeth, mi fydd o'n wych!).

Eto, tydi llawer o bobl ddim yn gwerthfawrogi'r cyfleon sydd ar gael i chi yn ôl yng Nghymru (wel yn sicr toeddwn i ddim tan i mi ddod yma). Ewch yno ar bob cyfrif a mwynhewch!

O.N. bach arall, dim deud eich bod yn bobl boring oeddwn yn y postiad cynt, ond yn hytrach bored mashwr i fod yn darllen hwn!

Mae'n ei ôl...

Henffych, bobl ddiflas!

Yndw, dwi'n nôl yn barod i'ch diddannu a'ch diflasu am dymor cyfan! Am resymau technegol nid oeddwn yn medru ymweld âg unryw wefan blogger dros wyliau'r Nadolig, ond dwi'n fy ôl yn y coleg ac ar yr intranet bechingalw intarnet bethma a mae'n gweithio'n chiampion!

Wrth ddod lawr tua'r Caergrawnt 'ma gwelsom fws ar un o'r traffyrdd (yr M6 tolledig efallai?) gyda'r geiriau mawrion Llundain - London ar y blaen! Wel mi oeddwn i wrth fy modd! Dwi'n meddwl mai un o'r bysus rhyng-ddinasol 'ma ydi o lle cewch fynd o ddinas i ddinas am buntan. Cywirwch fi os dwi'n anghywir! Ond dyna syrpreis bach neis p'run bynnag! Meddwl oeddwn i wedyn - tybed be ma'r Sais yn feddwl ohonno? "Wer ddy ffalabalam has ddus bys cym ffrom?!". Tybed!

O.N. Pwy sylwodd ar y linell o "D.J. Ffawst" yn y teitl?!