Gor C'fyrddin a De Penfro, a Gorllewin Clwyd

Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro:

Er bod tipyn o ddarogan y byddai'r Blaid yn cipio hon, 3ydd oedden nhw:

Ceidwadwyr 8590
Llafur 8492
Plaid Cymru 8340

Fel y gwelwch mi oedd hi'n agos iawn a gallasai fod wedi mynd unrhyw ffordd! Ai dyma ddiwedd ar obeithio Glyn Davies gan fod y Toriaid wedi cipio 2 sedd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? Mawr obeithiaf ddim!


Gorllewin Clwyd:

Darren Millar i'r Ceidwadwyr yn cipio hon gan Lafur sy'n golygu na fydd Alun Pugh yn dychwelyd i Fae Caerdydd. Darren Millar achosodd stŵr oherwydd ei ddaliadau crefyddol a roedd llawer yn darogan y byddai hynny'n ddigon iddo golli'r ras, ond nid hynny a fu.

Oes modd i'r Ceidwadwyr gael cymaint o seddi â Phlaid Cymru? PC: 7 sedd hyd yn hyn, C: 5 sedd. 3 etholaeth i fynd; Penybont (bygythiad i Carwyn Jones), Bro Morgannwg (bygythiad i Jane Hutt) a tydi pobl Ogmore (lle?! Sori, dim clem am gyfieithiad) ddim yn medru cyfri, ymddengys, gan bod neb yn darogan sioc yma.