Môn - dwi'n poeni

Does gen i ddim rheswm o gwbwl i boeni mwy rŵan nag oedd gen i gynt, ond mae'r aros yn fy nghadw ar bigau. Dwi'n gadael y cwrw ac am y chwisgi, dwi'n meddwl. Pedwar canlyniad gwych i Blaid Cymru er hynny, dros 4000 o fwyafrif yng Ngheredigion ac yn Llanelli, a 60% o'r bleidlais i Dafydd Êl, ynghyd â chanlyniad da Arfon.